Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Ionawr 2017
Amser: 09.02 -
12.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3860
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Chris Tudor-Smith, Llywodraeth Cymru Rhian Williams, Llywodraeth Cymru Chris Brereton, Llywodraeth Cymru Sue Bowker, Llywodraeth Cymru Dr Olwen Williams, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Suzanne Cass, Action on Smoking and Health (ASH) Wales Cymru Dr Steven Macey, Action on Smoking and Health (ASH) Wales Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Ail Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 833KB) Gweld fel HTML (335KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Iorwerth AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a'i swyddogion.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r hyn a ganlyn:
• nodyn yn rhoi manylion hawl ymarferwyr i wrthod tyllu person sy'n iau na 18 oed mewn man personol pan fo cyfyngiadau cyfreithiol ond yn gymwys ar gyfer y rheiny sy'n iau nag 16 oed, ynghyd â'r goblygiadau posibl i ymarferwyr o'r fath, boed yn oblygiadau cyfreithiol neu oblygiadau eraill;
• manylion pellach ynghylch y troseddau perthnasol a amlinellwyd yn adran 63(3) y Bil, a'r diffyg yn y Bil fel y mae ar hyn o bryd o ran crybwyll troseddau rhyw;
• copi o'i llythyr at BMA Cymru, a anfonwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn mynd i'r afael â'u pryderon ynghylch gwasanaethau fferyllol ac Asesiadau Anghenion Fferyllol.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Meddygon.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o ASH Cymru.
5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015-16.
5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc ynghylch sgrinio rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn plant
5.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llesiant a Chwaraeon ynghylch gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
5.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch sefydlu Addysg Iechyd Cymru.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ac ASH Cymru.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl terfynol ar gyfer ei ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd, a chytunodd i ymgynghori'n eang.